Saesneg
(English)

Gwefan Dan y Cownter 3 yn fyw!
Safle llwythiadau rhad ac am ddim
yn adlewyrchu amser cyffroes i’r Sin Gerddoriaeth Gymraeg
Mae Dan Y Cownter 3 yn safle llwytho i lawr rhad ac
am ddim @ www.danycownter.com
sy’n cynnwys deg o draciau gan ddeg o artistiaid Cymraeg ifanc wahanol
iawn - mae yna rywbeth at ddant pawb.
Nawr yn ei thrydedd flwyddyn, mae Dan y Cownter yn
bartneriaeth rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.
Pwrpas yr albwm aml gyfrannog ar-lein hon yw adlewyrchu bwrlwm a chyfoeth
cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a denu mwy o bobl i ymddiddori yn y maes
– trwy’r we.
Dewiswyd y 10 trac gan y DJ Huw Stephens o Radio Cymru
a Radio 1 a grwpiau o bobl ifanc mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru.
Dywedodd Huw Stephens : “Unwaith eto mae Dan y Cownter yn gasgliad cyffrous
sy'n adlewyrchu rhai o gerddorion talentog a phrysur y sin. Fi'n sicr
bydd llawer yn cael boddhad allan o'r caneuon yma, a gobeithio byddant
yn creu argraff ar lawer o ffans newydd.”
Mae Dan y Cownter 3 yn cynnwys traciau gan Derwyddon
Dr Gonzo, Cate Le Bon, MC Mabon, Messner, Mr Huw, Eitha Tal Ffranco,
Fflur Dafydd, Mattoidz, Wrightoid a’r Diwygiad, ac felly’n cynnwys amrywiaeth
eang o gerddoriaeth - acwstig, jazz, indie, roc a hip-hop. Mae’r
wefan hefyd yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y sin gerddoriaeth
Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.danycownter.com
neu cysylltwch â post@danycownter.com
/ 029 20494110 am ragor o fanylion.
--------------
Gwybodaeth am yr Artistiaid
DERWYDDON DR GONZO
Mae Derwyddon Dr Gonzo yn fand gyda llawer
o dalent gerddorol sy’n plethu amryw o arddulliau gwahanol gan gynnwys
jazz ac electronica ac wedi’i dylanwadu gan fandiau megis Bonobo, Hextati,
The Meters a hen afrobeat fel Fela Kuti. Ers 2007, mae’r band
wedi perfformio mewn nifer o gigs, recordio fideos ar gyfer y teledu
ac ymestyn offerynnau pres y band gyda sax a thrymped newydd a bod yn
ddrygionus yn gyffredinol!
www.myspace.com/derwyddondrgonzo
CATE LE BON
Mae Cate Le Bon wedi bod yn brysur yn ddiweddar, gan
gynnwys cefnogi Gruff Rhys ar ei daith drwy’r DU, chwarae Glastonbury,
Latitude a Gŵyl y Dyn Gwyrdd a chanu ar sengl ‘I Lust U’
gan y band Neon Neon (prosiect Gruff Rhys a Boom Bip). Bydd EP
swyddogol cyntaf Cate Le Bon yn cael ei ryddhau ar label eclectig Peski
Mehefin 2008.
www.myspace.com/catelebon
MC MABON
Daw’r gân 'Be Di Be' sydd ar Dan y Cownter 3 o’r
albym Jonez Williamz gan MC Mabon a chafodd ei recordio’n wyllt
yn Gaiman, tref Cymraeg ym Mhatagonia, Ariannin, ac mewn
amryw o stiwdios drwy Gymru yn ystod 2006 a 2007. Mae 'Jonez
Williamz' yn drysor llawn anrhefn gyda geiriau lliwgar, hiwmor ac
amryw o steiliau cerddorol. Mae’r albwm wedi’i hysbrydoli gan amryw
o bethau od ac anhygoel o fyd llawn hyfrydwch MC Mabon, gan gynnwys
“perros locos, stiwardes awyr, armadillos, gor-boblogi, cynhesu byd-eang, gwin a choffi!
www.myspace.com/mcmabon
MESSNER
Mae Messner yn aml-offerynwr sydd yn perfformio cerddoriaeth
folktronica ar ei gitar a laptop fechan. Yn wreiddiol o Fangor, ond
nawr yn byw ym Manceinion, dechreuodd Messner ysgrifennu cerddoriaeth
dros Pasg 2007 a rhyddhaodd ei albwm gyntaf ‘em am’ ar ei label
MoPaChi diwedd Ebrill 2008.
Cynhyrchwyd y trac yn ystafell wely Messner gydag ef
yn chwarae pob offeryn.
www.myspace.com/messnermusic
MR HUW
Mae Mr Huw wedi bod yn chwarae ar ben ei hun ers dechrau
2006 efo'i ganeuon bachog dros ben. Efo cwmni ei gerddoriaeth cefndir,
gitâr, allweddellau a'i simbal mae ganddo ddigon o gwmni a phethau i'w
gwneud ar y llwyfan.
www.myspace.com/ymrhuw
EITHA TAL FFRANCO
Mae’n bosib mai dyma’r unig fand fyddech chi’n weld ar
lwyfan y dyddiau yma efo dwy organ, gwalltiau o’r chwedegau a chaneuon
yn amrywio o hanes athro yn lladd ei hun i gyfarwyddiadau ar sut i fwyta
dy gymdogion. Mae’r ddau wedi rhyddhau eu halbwm ar label eu hunain
ers dechrau 2008 ac mae eu halawon bachog a’u geiriau diddorol yn cyfuno
i greu cyfanwaith cyffroes, er ychydig yn wallgof.
www.myspace.com/eithatalffranco
FFLUR DAFYDD
Mae Fflur Dafydd yn gantores ac yn gyfansoddwraig o Gaerfyrddin.
Wedi potsian gyda'r band Y Panics, aeth ymlaen i berfformio fel artist
unigol gyda'r blewiach-dros-ben - Y Barf. Ers hynny mae hi wedi
bod wrthi'n sgrifennu caneuon ar y gitâr acwstig, y piano a'r Fender
Rhodes. 'Daw Dala Fe Nôl' o’r albym 'Un Ffordd Mas' sydd
wedi’i haenu gydag offerynnau trydanol ac acwstig, gan gyfuno curiadau
ffres a rhythmig gyda chanu angerddol, hypnotig.
www.myspace.com/fflurdafydd
MATTOIDZ
Band o’r Gorllewin yw Mattoidz a ddaeth i amlygrwydd drwy
ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau yn 2002. Ar ôl rhyddhau dwy EP,
fe wnaeth Mattoidz rhyddhau eu albym cyntaf yn 2005 ac enillodd y band
wobr Band y Flwyddyn yng ngwobrau roc a phop Radio Cymru yn 2006.
Mae Mattoidz yn cael eu hadnabod fel band sy’n gigio’n galed a bellach
maent wedi rhannu llwyfan gyda The Automatic a Gruff Rhys o Super Furry
Animals.
www.myspace.com/mattoidz
WRIGHTOID
Mae Wrightoid yn llyfrgellydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n
sgrifennu a pherfformio caneuon, fel arfer ar y gitâr. Roedd ganddo
albwm allan ar label R-Bennig yn 2005, Mae o hefyd yn aelod o'r band
Cymraeg tanddaearol 21 Chimneys.
www.myspace.com/wrightoid
Y DIWYGIAD
Y Diwygiad yw prosiect Hip-Hop amlieithog y bardd a'r
rapiwr Aneirin Karadog (Genod Droog) a'r cynhyrchydd/bitbocsiwr/rapiwr/DJ
Ed Holden (Pep le Pew gynt, Genod Droog) sy'n anelu i gael pobl i fwynhau
rapio ta beth yw'r iaith, boed yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Llydaweg
neu Sbaeneg! Maent wedi cydweithio â'r artist electronig/arbrofol
o Los Angeles, Daedelus ac yn mynd allan i gydweithio'n bellach gyda
fe ym mis Gorffennaf ar eu halbwm cyntaf, 'Hymn 808'. Mae'r E.P.
'The Reformation' ar gael gan label Skipping Beats. www.myspace.com/ydiwygiad
Neges gan Dai Llwyd:
HI, Dai Lloyd
yma o'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Dwi'n cysylltu i weld os allwch
pasio peth o'r wybodaeth atodedig ymlaen, sydd yn sôn am prosiect
"Dan Y Cownter 3" - deg trac iaith Gymraeg ar gael i'w lwytho
i lawr o rhai o'r dalent gorau ifanc yng Nghymru. Wedi ei anelu'n bennaf
at bobl ifainc, mae'r safle yn cynnwys llawer o wybodaeth am gerddoriaeth
Gymraeg. 'Ta beth, os ewch chi at www.danycownter.com
mi fyddwch yn gallu darganfod mwy, a fyswn yn gwerthfawrogi unrhyw hysbysrwydd
y gallwch roi i'r safle.
Cysylltwch os ydych am ragor o wybodaeth (manylion isod)
Diolch
Dai
*/Gwefan Dan y Cownter 3 yn fyw!
Safle llwythiadau rhad ac am ddim yn adlewyrchu amser cyffroes ir
Sin Gerddoriaeth Gymraeg/*
Mae Dan Y Cownter 3 yn safle llwytho i lawr rhad ac am ddim @ www.danycownter.com
<http://www.danycownter.com> syn cynnwys deg o draciau gan
ddeg o artistiaid Cymraeg ifanc wahanol iawn - mae yna rywbeth at ddant
pawb.
Nawr yn ei thrydedd flwyddyn, mae Dan y Cownter yn bartneriaeth rhwng
Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Pwrpas yr albwm
aml gyfrannog ar-lein hon yw adlewyrchu bwrlwm a chyfoeth cerddoriaeth
gyfoes Gymraeg a denu mwy o bobl i ymddiddori yn y maes trwyr
we.
Dewiswyd y 10 trac gan y DJ Huw Stephens o Radio Cymru a Radio 1 a grwpiau
o bobl ifanc mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru.
Dywedodd Huw Stephens : Unwaith eto mae Dan y Cownter yn gasgliad
cyffrous sy'n adlewyrchu rhai o gerddorion talentog a phrysur y sin.
Fi'n sicr bydd llawer yn cael boddhad allan o'r caneuon yma, a gobeithio
byddant yn creu argraff ar lawer o ffans newydd.
Mae Dan y Cownter 3 yn cynnwys traciau gan Derwyddon Dr Gonzo, Cate
Le Bon, MC Mabon, Messner, Mr Huw, Eitha Tal Ffranco, Fflur Dafydd,
Mattoidz, Wrightoid ar Diwygiad, ac fellyn cynnwys amrywiaeth
eang o gerddoriaeth - acwstig, jazz, indie, roc a hip-hop. Maer
wefan hefyd yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y sin gerddoriaeth
Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.danycownter.com
neu cysylltwch â post@danycownter.com
/ 029 20494110 am ragor o fanylion.
------------------------------
Dai Lloyd
Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig
Welsh Music Foundation
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd / Cardiff
CF10 5LH
029 20 494110 - Swyddfa / Office
029 20 495446 - Uniongyrchol / Direct Line
dai@welshmusicfoundation.com
www.sefydliadcerddoriaethgymreig.com
/ www.welshmusicfoundation.com
www.danycownter.com
- albwm o gerddoriaeth Gymraeg am ddim!